Darganfod Sir Gaerfyrddin
CIPOLWG AR

Cestyll Sir Gaerfyrddin

Mae Sir Gaerfyrddin yn sir sy'n llawn hanes a chwedlau ac mae'n gartref i gestyll go iawn, llawn awyrgylch sydd ymhlith goreuon Ewrop...

Castell Carreg Cennen

Castell Carreg Cennen

Saif adfeilion Castell Carreg Cennen yn urddasol tua 900 troedfedd uwchlaw afon Cennen. Byddwch yn rhyfeddu at y golygfeydd gwych sy'n cwmpasu mwy na 60 milltir o Fynyddoedd y Preseli yn y gorllewin i unigedd y Mynydd Du yn y de. Dyma lecyn i'ch swyno a'ch cyfareddu. Mae'r castell fel petai'n perthyn i fyd y tylwyth teg a chwedloniaeth ac yn gyforiog o hanes. Nid oes sicrwydd ynghylch tarddiad Carreg Cennen. Codwyd y gaer bresennol oddeutu 1300 ac mae'i hanes yn llawn cythrwfl. Bu'r castell ym meddiant y Cymry a'r Saeson yn ystod y canol oesoedd cythryblus.
Tâl mynediad - Mwy o wybodaeth - carregcennencastle.com
Map ›

Castell Dinefwr

Castell Dinefwr

Mae Castell Dinefwr yn lle rhyfeddol sy'n cynnwys castell Cymreig o'r 12fed ganrif, plasty hanesyddol a pharc wedi'i dirweddu o'r 18fed ganrif sy'n gartref i 100 o fychod danas. Saif y castell uwchlaw afon Tywi ger tref Llandeilo ar ben llethr serth, hawdd ei hamddiffyn, rai cannoedd o droedfeddi uwchlaw'r afon. Rhodri Fawr wnaeth adeiladu'r castell cyntaf ar y safle hwn, ond nid oes olion o'r cyfnod hwn wedi dod i'r golwg. Yn ddiweddarach, Dinefwr oedd prif lys Hywel Dda, ŵyr Rhodri, tywysog cyntaf Deheubarth a brenin y rhan fwyaf o Gymru wedi hynny. Dinefwr oedd cadarnle tywysogion Deheubarth ac yn y 12fed ganrif roedd y castell ym meddiant yr Arglwydd Rhys a oedd yn un o dywysogion mwyaf pwerus Cymru yn y cyfnod.
Mynediad am ddim- Mwy o wybodaeth - welshwildlife.org/castle-woods-llandeilo
Map ›

Castell Dryslwyn

Castell Dryslwyn

Rhannau yn unig sy'n weddill o'r castell hwn o'r 13eg ganrif ar lan afon Tywi ond mae'n werth dringo'r llethr serth o'r maes parcio islaw i fwynhau'r golygfeydd ysblennydd. Mae'n debygol fod castell Dryslwyn wedi'i godi yn y 1220au gan dywysogion Deheubarth ac am gyfnod hir bu'r castell hwn, a chastell cyfagos Dinefwr yn allweddol o ran diogelu'r deyrnas. Yn dilyn marwolaeth Dafydd ap Gruffudd, Tywysog brodorol olaf Cymru, yn 1283, hwn oedd un o'r ychydig gestyll cerrig sylweddol yng Nghymru oedd ym meddiant y Cymry. Roedd yn gartref i un o arglwyddi amlycaf Cymru yn y cyfnod hwnnw sef yr Arglwydd Rhys ap Maredudd hyd nes iddo yntau gael ei ddal a'i ddienyddio yn 1292.
Mynediad am ddim - Mwy o wybodaeth - cadw.wales.gov.uk
Map ›

Castell Cydweli

Castell Cydweli

Y castell hwn yw un o gyfrinachau mawr Cymru. Mae Castell Cydweli, uwchlaw afon Gwendraeth, yn rhoi golwg mwy cynhwysfawr ar yr oesoedd canol na llawer o gestyll eraill mwy adnabyddus o'r un cyfnod. Mae'r castell mewn cyflwr arbennig o dda a'i nodwedd amlycaf yw'r porthdy enfawr, a gwblhawyd yn 1422. Edrychwch ar y bwâu a ddefnyddid i daflu cerrig mawr at ymosodwyr a defnyddiwch eich dychymyg i'r eithaf a rhoi eich hun yn sefyllfa'r rheiny oedd yn amddiffyn y castell rhag y gelyn.
Tâl mynediad - Mwy o wybodaeth - cadw.wales.gov.uk
Map ›

Castell Lacharn

Castell Lacharn

Ni fu tref dawel a digyfnewid Lacharn bob amser yn lle mor heddychlon ag y mae heddiw. Mae hanes llawer mwy cythryblus i'r man tawel hwn, a anfarwolwyd gan ei breswylydd enwocaf, sef y llenor Dylan Thomas. Mae Castell Lacharn, a saif ar y lan yn gadarn uwchlaw moryd Taf, yn tystio i hanes cythryblus y dref. Mwy na thebyg i Lacharn gael ei sefydlu yn gynnar yn y 12fed ganrif a hynny yn amddiffynfa bridd a phren ond yn ddiweddarach fe'i haddaswyd yn blasty cain a moethus.
Tâl mynediad - Mwy o wybodaeth - cadw.wales.gov.uk
Map ›

Castell Llansteffan

Castell Llansteffan

Saif Castell Llansteffan ar fryn uwchlaw aber Tywi, gan warchod yr afon fel y byddai wedi'i wneud ar ddechrau'r 12fed ganrif. Roedd Llansteffan yn un o gadwyn o gestyll a adeiladwyd gan y Normaniaid ond roedd yn gadarnle ymhell cyn hynny, gan i'r castell fanteisio ar wrthgloddiau parod bryngaer o'r Oes Haearn. Fel llawer o gestyll eraill yn y rhanbarth, ymosodwyd arno dro ar ôl tro yn y dyddiau cynnar a chafodd ei gipio gan y Cymry. Cyfeirir at y castell am y tro cyntaf ym 1146 pryd y cafodd ei gipio gan dri thywysog y Deheubarth.
Mynediad am ddim - Mwy o wybodaeth - cadw.wales.gov.uk
Map ›

Castell Newydd Emlyn

Castell Newydd Emlyn

Mae olion y castell hwn ar laswelltir uwchlaw Afon Teifi. Adfeilion yn unig sydd yno heddiw ond mae'n dal yn bosibl ichi synhwyro mawredd y lle hwn. Y porthdy dau dŵr sydd ar ochr orllewinol y cwrt mewnol trionglog yw nodwedd amlycaf y castell. Mae tu allan tyrau'r porthdy ar ffurf hanner wythongl ac mae eu tu mewn yn hirsgwar, ac mae siafftiau geudai ar yr ochrau gogleddol a deheuol.
Mynediad am ddim - Mwy o wybodaeth - castlewales.com
Map ›